Os hoffech gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o'r safleoedd rydych wedi dod o hyd iddyn nhw ar Archwilio, neu os oes gennych unrhyw ymholiad arall sy'n ymwneud â Chofnod Amgylchedd Hanesyddol, llenwch y ffurflen ymholi a'i hanfon trwy e-bost i her@ggat.org.uk neu postiwch hi atom yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent, Ty Heathfield, Heathfield, Abertawe, SA1 6EL.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn derbyn grantiau i ganiatáu iddi ddarparu gwybodaeth yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr preifat neu academaidd ac i gyrff lleol a chenedlaethol. Fodd bynnag, os yw ymholiadau'n fasnachol eu natur, efallai'n ymwneud â materion datblygu neu gynllunio, yna codir tâl. Nid yw cronfa ddata Archwilio yn addas i'w defnyddio ar gyfer ymholiadau masnachol.
Gofynnir i bawb sy'n gwneud ymholiadau ddarllen a derbyn yr Amodau Defnyddio a Chanllawiau Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar Fynediad a Chodi Tâl. Mae perchnogaeth hawlfraint yn berthnasol ar gyfer copïo ac, mewn rhai achosion, bydd angen ymgynghori â deiliad yr hawlfraint cyn gellir rhyddhau deunydd. Cyn rhyddhau data CAH, mae'n rhaid i ddefnyddwyr lofnodi Ffurflen Ymholi CAH a Datganiad Hawlfraint.
Neu gallwch ymweld â'r CAH yn bersonol, ond gofynnwn ichi drefnu apwyntiad ymlaen llaw. Darperir gweithfan gyhoeddus yn benodol at y diben, gyda mynediad i'r cofnod digidol a mapiau. Bydd staff wrth law i gynorthwyo ag unrhyw ymholiadau ac i ddod â chofnodion papur. Mae mynediad hefyd ar gael i'n harchif adroddiadau a llyfrgell gyfeirio fach.
Mae gofyn i ymwelwyr â'r CAH lofnodi yn y dderbynfa. Oherwydd rhesymau'n ymwneud â diogelwch, rhaid cadw pob ambarél, bag a chês dogfennau yn y dderbynfa ddiogel a pheidio â mynd â nhw i ystafelloedd Chwilio/Astudio'r CAH heb ganiatâd ymlaen llaw.
Mae'r CAH ar agor i'r cyhoedd trwy apwyntiad rhwng 10.00 ac 1.00 a rhwng 2.00 a 4.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydym ar gau ar Wyliau'r Banc.
Mynd i brif wefan GGAT yn www.ggat.org.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk